[Ordering Information] [Add to Basket] [View Basket]
DESCRIPTION
Crynodeb John Calfin (1509-1564) ei hun o argraffiad cyntaf ei Institutio, 1536, yw'r gwaith bychan hwn a gyhoeddwyd yn gyntaf yn y Ffrangeg ym 1537 o dan y teitl Instructionet Confessionde Foy dont on use en l'Eglise de Geneve. Ei amcan wrth gyhoeddi'r gwaith oedd egluro hanfodion Cristnogaeth mewn modd syml a chlir ar gyfer pobl gyffredin Genefa er mwyn eu hadeiladu yn yr efengyl. Y mae'n grynodeb hwylus o brif syniadau'r diwygiwr ifanc, a hefydyn gyflwyniad ardderchog o hanfodion y ffydd didiwygiedig. Ynddo, mynegir calon y ffydd Gristnogol yn ei holl symlder gogoneddus.
Dyma addasiad cyntaf i'r Gymraeg o'r gwaith pwysig hwn. Bydd yn gymorth i ddeall diwinyddiaeth Calfin yn well, yn ogystal a bod yn faes trafod sylfeini'r Ffydd Gristnogol mewn dosbarthiadau eglwysig.